Datblygu Trawsnewid ym Mhrydain – helpwch ni i siapio’r dyfodol!
By Yaz Brien 30th January 2020
Nôl ym mis Awst 2019 rhannwyd y newyddion gyda chi fod y Rhwydwaith Trawsnewid yn llunio cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer rhaglen 4 blynedd i feithrin capasiti a rhwydweithiau rhanbarthol i gefnogi Trawsnewid ym Mhrydain. Ac yn unol ag ysbryd Trawsnewid, yn ein barn ni, dylech chi, unigolion sy’n cefnogi Trawsnewid, fod yn rhan o’r broses o gyd-ddylunio’r rhwydweithiau hyn, gyda’ch gwybodaeth leol i adnabod sut y gall rhwydwaith mwy cefnogi’ch anghenion chi a datblygu eich gweledigaeth ar ddechrau’r degawd pwysicaf erioed o safbwynt gweithredu ar yr hinsawdd.
Ar y pryd, lansiwyd arolwg enfawr hefyd, a derbyniwyd cyfanswm o 270 ymateb; diolch i bawb am gyfrannu ato. Cymerodd hydoedd inni ddarllen a dadansoddi’r holl ymatebion, ond roedd yn werth yr ymdrech! Gallwch ddarllen adroddiad byr Saesneg ar y prif ganlyniadau yma.
Canlyniadau’r arolwg ar y cyd â’r gwaith ar y rhwydweithiau rhanbarthol isod dros y 4 blynedd diwethaf sydd wedi llywio ein cais:
- 11 o weithdai yn 2017 ar thema rhwydweithiau rhanbarthol
- Ymchwil MSc, sydd ar gael yn Saesneg yma.
- Cyflawni “The Great Invitation”, i ategu tyfu rhwydweithiau rhanbarthol Hastings, Gorllewin Canoldir Lloegr, Y Gogledd Orllewin, Llundain, Wiltshire, Swindon a Southampton; gellir dysgu mwy am hyn trwy’r gyfres “Stepping Up and Reaching Out” ar ein blog Saesneg.
Byddwn yn cyflwyno’r cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Mawrth eleni.
Byddem yn hoffi rhannu crynodeb cyfredol o’r prosiect gyda chi er mwyn derbyn adborth gennych. Byddem yn hoffi clywed eich barn, er mwyn sicrhau fod fframwaith y prosiect yn cyfateb i’r hyn sydd ei angen.
Os bydd ein cais yn llwyddiannus, hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect arfaethedig? Fedrwch chi ddychmygu sut gall y rhaglen 4 blynedd hon ategu cysylltiadau rhanbarthol tuag at ddyfodol ar sail adfywio yn eich ardal leol chi!
Fyddai gan eich Grŵp Trawsnewid chi’r awydd a’r capasiti i gymryd rhan ac ymgysylltu â’r prosiect, er mwyn helpu datblygu Trawsnewid yn eich ardal chi, ac i greu cysylltiadau gyda grwpiau eraill cyfagos? Oes gennych chi’r brwdfrydedd, y profiad, y sgiliau a’r cysylltiadau i allu cyfrannu at y prosiect hwn fel Plethwr Rhwydwaith?
Gellir dysgu mwy trwy ddarllen Crynodeb o’r Prosiect yma a thrwy anfon eich syniadau atom cyn 17eg Chwefror trwy Surveymonkey (dim ond 12 cwestiwn sydd!) yma.
Hefyd estynnir gwahoddiad ichi gymryd rhan mewn cyfarfod ar-lein i drafod manylion y cais ddydd Llun 3ydd Chwefror, rhwng 7pm – 9pm (GMT). Yn ystod y cyfarfod, bydd cyfle i ddysgu mwy am y cynllun arfaethedig, gofyn cwestiynau a sicrhau fod cynnwys y cais yn briodol. Cliciwch ar y ddolen hon ar y noson, pan fyddwch yn barod i ymuno â’r drafodaeth. Os nad ydych wedi defnyddio Zoom o’r blaen, byddai’n syniad clicio ar y ddolen ymlaen llaw, oherwydd hwyrach y bydd angen gosod darn bach o feddalwedd i allu ymuno â ni.
Cawn glywed ym mis Mehefin a oedd ein cais yn llwyddiannus ai peidio; felly cofiwch groesi bysedd y cawn ni newyddion da!