Grwpiau Trawsnewid Cymru, Lloegr a’r Alban – helpwch ni i siapio’r dyfodol!
By Mike Thomas 7th August 2019
Mae’r Rhwydwaith Trawsnewid yn datblygu cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac mae arnom angen eich cymorth. Byddai’r cyllid yn ein galluogi i gefnogi a datblygu’r mudiad Trawsnewid ym Mhrydain dros y 3 – 5 mlynedd nesaf. Ein nod yw cael pobl sy’n rhan o’r mudiad ym Mhrydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) i’n helpu siapio’r cais hwn.
Estynnir gwahoddiad i bawb sy’n rhan o fentrau Trawsnewid i ymateb i’r arolwg hwn; a byddwn yn cynnal sgyrsiau pellach gyda rhai grwpiau ar bynciau penodol. Gofynnir ichi lenwi’r arolwg erbyn dydd Sul 8fed Medi os gwelwch yn dda – bydd pob ymateb yn helpu cryfhau ein cais, a chawn wybod ym mis Mawrth 2020 os bu ein cais yn llwyddiannus.
Ein gobaith yw creu prosiect sydd o fudd gwirioneddol i’r mudiad, yn seiliedig ar anghenion go iawn grwpiau Trawsnewid, ac sy’n creu rhwydweithiau cadarn ar lefel ranbarthol a chenedlaethol – sy’n galluogi ein mudiad i dyfu ar i fyny ac ehangu.
Mae’r cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn datblygu’r gwaith a gynhaliwyd yn ystod 2017/2018, pan gyflwynwyd deg o Weithdai Rhanbarthol ar draws Lloegr. Buom yn ystyried yr hyn sy’n helpu grwpiau i ffynnu, a sut y gall rhwydweithiau rhanbarthol gefnogi Trawsnewid mewn cymunedau lleol. Gellir darllen mwy am y gweithdai hyn a’r adnoddau a ddatblygwyd er mwyn eu cyflwyno yma.
Wrth ddatblygu canlyniadau’r gweithdai hyn, bydd y cais yn cynnwys agweddau potensial megis datblygu rhwydweithiau thematig (e.e. bwyd, ynni, tai a mwy) a bydd yn ystyried sut i wneud ein grwpiau’n fwy cynhwysol a sicrhau eu bod yn cynrychioli’r cymunedau ehangach lle rydym yn byw ac yn gweithio.

Mae’r arolwg yn gofyn am eich profiadau chi ym maes Trawsnewid. Byddem yn hoffi gwybod mwy am:
- Sut mae’n mynd yn eich grŵp chi, a pha gymorth fyddai o fudd ichi fod yn fwy effeithiol. Trwy ddeall eich anghenion chi, gallwn ei ddylunio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
- Sut mae’ch grŵp chi wedi ymgysylltu ag amrywiaeth bresennol eich cymuned, yn benodol, unrhyw beth sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus. Gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth yma, gallwn helpu eraill i wneud yr un peth.
- Eich diddordeb mewn bod yn rhan o rwydwaith o safbwynt themâu penodol, a sut y gallwn sicrhau fod gennych fynediad at hyn. Bydd yr wybodaeth yma’n ein hysbysu i wybod ar ba feysydd y dylwn ganolbwyntio, a sut y gallwn eu creu.
- Eich syniadau ar ddatblygu Hwb Trawsnewid ar gyfer Cymru a/neu Loegr efallai, a’r hyn y gallwn ei wneud i wireddu hyn.
Hwyrach bod yr arolwg yn ymddangos yn hir, ond mae atebion amlddewis i lawer o’r cwestiynau, neu maent yn defnyddio teclyn ichi ddewis ateb, felly ni fydd yn cymryd llawer o’ch amser. Ein gobaith yw y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosib o’ch grŵp chi’n llenwi’r arolwg! Mae arnom angen safbwyntiau lluosog a phrofiadau gwahanol.
Croeso ichi anfon hwn ymlaen at eraill! Rydym yn ymrwymo i adrodd nôl a rhannu trosolwg o’r ymatebion gyda chi. Ac i’ch ysgogi, rydym yn cynnig gwobr o dri chopi o lyfr newydd Rob Hopkins ‘From What Is to What If: Unleashing the Power of Imagination to Create the Future We Want’ – fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2019.
Hefyd cewch wahoddiad i weminar ar-lein gyda Rob pan fydd yn trafod y syniadau yn ei lyfr, a’r goblygiadau i’r Mudiad Trawsnewid a newid cymdeithasol ehangach.
Gallwch gychwyn yr arolwg yma a gofynnir ichi annog eraill i’w lenwi erbyn dydd Sul 8fed Medi.
Pam canolbwyntio ar grwpiau Trawsnewid ym Mhrydain? Mae’r Rhwydwaith Trawsnewid yn gweithio ar lefel fyd eang, ac ar lefel leol mae timau craidd o fentrau a grwpiau lleol, a rhyngddynt mae’r Hybiau Cenedlaethol a Rhanbarthol. Cychwynnodd y mudiad Trawsnewid yn Lloegr yn wreiddiol, felly mae’r Rhwydwaith Trawsnewid wedi bod yn gyfrifol am Hwb Cymru a Lloegr ar sail anffurfiol, sy’n gallu ymddangos a theimlo’n wahanol i Hybiau eraill. Gall y gwaith yma helpu datblygu Hwb a drefnir gennych chi’ch hunain, sy’n rhan o rwydwaith rhyngwladol ac felly’n fwy tebygol o allu ysgogi Trawsnewid ar lefelau amrywiol. Gellir darllen mwy am Hybiau Trawsnewid yma.
Cydnabyddir cefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer cyfnod datblygu’r gwaith yma, sy’n golygu y gallwn ganolbwyntio ar Brydain, ac ar yr un pryd cynnal meysydd ffocws ehangach, rhyngwladol a chymorth ar gyfer mudiad Trawsnewid byd-eang.
Diolch yn fawr am gymryd yr amser i helpu siapio’r hyn all droi’n gyfle pwysig i grwpiau Trawsnewid ar draws Prydain.
Croeso ichi anfon yr ebost hwn ymlaen at holl aelodau’ch grŵp!